Exodus 40

Codi a chysegru'r Tabernacl

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn
40:2 flwyddyn Hebraeg, “mis cyntaf”, sef Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan). Mis cyntaf y calendr Hebreig sy'n rhedeg o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
rwyt i godi'r Tabernacl – Pabell presenoldeb Duw.
3Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch. 4Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni. 5Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl. 6Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, Pabell presenoldeb Duw. 7Rho'r ddysgl fawr rhwng Pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr. 8Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.

9“Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd. 10Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd. 11Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.

12“Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa Pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw gyda dŵr. 13Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi. 14Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau, 15a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”

16Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. 17Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn.
40:17 ail flwyddyn Digwyddodd hyn flwyddyn union ar ôl dod allan o'r Aifft.
18Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle. 19Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

20Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni. 21Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

22Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn. 23A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr Arglwydd, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

24Wedyn gosod y menora tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl. 25Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr Arglwydd, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

26Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn, 27a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

28Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl. 29Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef Pabell Presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

30Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi gyda dŵr ar gyfer ymolchi. 31Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi. 32Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.

33Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.

Y cwmwl dros Babell Presenoldeb Duw

(Numeri 9:15-23)

34A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros Babell Presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr Arglwydd yn ei llenwi (sef y Tabernacl.) 35Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr Arglwydd yn ei llenwi. 36Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith. 37Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle. 38Roedd cwmwl yr Arglwydd ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio.

Copyright information for CYM